Cyn gwneud cais am becyn swab mae angen i ni ofyn ychydig o gwestiynau i chi i gadarnhau eich cymhwysedd. Bydd y sampl o’r swab o’ch boch yn cael ei brofi am farcwyr genetig Antigenau Leucocytau Dynol (HLA), ABO a grŵp gwaed Rhesws, a firws cyffredin tebyg i ffliw o'r enw Cytomegalofirws (CMV). Bydd y data hwn yn cael ei ddefnyddio i'ch ychwanegu at ein panel bôn-gelloedd, ynghyd â'ch manylion. Mae cofrestrfeydd a chanolfannau trawsblannu ym mhob rhan o'r byd yn pori drwy’r panel yn chwilio am rywun sy’n cydweddu â chleifion sydd angen trawsblaniad bôn-gelloedd.
Yn anffodus, ni fyddwch yn gallu rhoi gwaed os oes gennych unrhyw rai o’r cyflyrau canlynol:
- Clefydau difrifol ar y galon, yr ysgyfaint neu'r arennau
- Salwch difrifol y brif system nerfol
- Cyflyrau iechyd meddwl difrifol
- Clefydau metabolig difrifol
- Caethiwed (alcohol, cyffuriau, tabledi)
- Clefydau heintus trofannol difrifol
- Clefydau heintus fel HIV, Syffilis, Hepatitis B neu Hepatitis C (hyd yn oed os ydych chi’n cael, neu wedi cael triniaeth)
- Clefydau awto-imiwn neu salwch cronig difrifol arall
- Canser (yn y gorffennol neu'r presennol). Eithriad: basalioma a carcinoma serfigol (os wedi cael eu tynnu'n llawn)
- Anhwylderau gwaed
- Wedi dioddef strôc
- Yn cymryd unrhyw feddyginiaeth ar gyfer diabetes
- Yn pwyso dan 7 stôn 12lbs / 50kg
- BMI o fwy na 40
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch ni ar 0800 371502 neu anfon e-bost atom yn wbmdr@wales.nhs.uk