Gwiriwch eich cymhwysedd

Cyn gwneud cais am becyn swab mae angen i ni ofyn ychydig o gwestiynau i chi i gadarnhau eich cymhwysedd.


    DoNaddo

    Ar gyfartaledd, dim ond siawns o 37% sydd gan gleifion o gefndiroedd Du, Asiaidd, treftadaeth gymysg a lleiafrifoedd ethnig o ddod o hyd i'r rhoddwr gorau posibl sydd yn cydweddu â nhw ac sydd ddim yn perthyn iddyn nhw ar baneli bôn-gelloedd byd-eang, Mae hyn yn cymharu â siawns o 72% i gleifion o gefndir ethnig Prydeinig, Gwyddelig neu sy’n dod o Ogledd Ewrop. Mae cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn drwy gynyddu'r ystod oedran y gall rhoddwyr du, Asiaidd, neu sydd o dreftadaeth gymysg a chefndiroedd lleiafrifoedd ethnig gofrestru ar banel rhoddwyr bôn-gelloedd Cymru.


    DoNaddo

    DoNaddo


    Diolch am eich diddordeb, yn anffodus, dydych chi ddim yn gymwys i ymuno â'r Gofrestr, ond gallwch ddal i helpu, cliciwch yma i ddarganfod sut y gallwch chi helpu eraill i ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, neu ffoniwch ni heddiw ar 0800 371 502 neu e-bostiwch: wbmdr@wales.nhs.uk.


    Yn anffodus, ni fyddwch yn gallu rhoi gwaed os oes gennych unrhyw rai o’r cyflyrau canlynol:

    • Clefydau difrifol ar y galon, yr ysgyfaint neu'r arennau
    • Salwch difrifol y brif system nerfol
    • Cyflyrau iechyd meddwl difrifol
    • Clefydau metabolig difrifol
    • Caethiwed (alcohol, cyffuriau, tabledi)
    • Clefydau heintus trofannol difrifol
    • Clefydau heintus fel HIV, Syffilis, Hepatitis B neu Hepatitis C (hyd yn oed os ydych chi’n cael, neu wedi cael triniaeth)
    • Clefydau awto-imiwn neu salwch cronig difrifol arall
    • Canser (yn y gorffennol neu'r presennol). Eithriad: basalioma a carcinoma serfigol (os wedi cael eu tynnu'n llawn)
    • Anhwylderau gwaed
    • Wedi dioddef strôc
    • Yn cymryd unrhyw feddyginiaeth ar gyfer diabetes
    • Yn pwyso dan 7 stôn 12lbs / 50kg
    • BMI o fwy na 40

    Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch ni ar 0800 371502 neu anfon e-bost atom yn wbmdr@wales.nhs.uk

    cyWelsh