Cofrestru

Yma yng Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru rydym eisiau ei gwneud mor syml â phosibl i ddarpar achubwyr bywyd, fel chithau, i ymuno â ni yn ein brwydr yn erbyn canser y gwaed.

Bob blwyddyn, mae tua 2,000 o bobl yn y DU a 50,000 o bobl ar draws y byd angen trawsblaniad mêr esgyrn gan roddwr sydd ddim yn perthyn. Rydym yn chwilio drwy ein rhoddwyr bob dydd i ddod o hyd i rywun a allai gydweddu â rhywun mewn angen - gallech chi fod y rhoddwr hollbwysig hwnnw sy'n rhoi ail gyfle i rywun mewn bywyd.

Mae’n hawdd cofrestru – cliciwch ar y botwm isod, llenwch holiadur sgrinio byr i asesu eich addasrwydd, a rhowch rywfaint o fanylion i ni amdanoch chi eich hun, yna eisteddwch yn ôl ac ymlaciwch, ac fe wnawn ni bostio eich pecyn swab atoch chi!

Mae’n ffordd rhwydd o achub bywyd.

Gallwch ddod o hyd i gyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio a dychwelyd eich pecyn swab yn eich pecyn, ond os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi ein ffonio ni ar 0800 371502 neu anfon e-bost atom yn wbmdr@wales.nhs.uk

Request a swab kit
Gofynnwch am becyn swab
cyWelsh